|
prosiect argraffu dylan thomas especially when the october wind |
|||
|
rydych chi nawr yn: PROSIECT ARGRAFFU DYLAN THOMAS | Y PROSIECT ARGRAFFU | Y PRINTIAU | SUE KELSALL |
|||
|
|||
|
|
SUE KELSALL Mae'r darnau y daethpwyd o hyd iddynt ar gyfer y gwaith yma wedi dod o Fae Abertawe yn ystod y broses o ddefnyddio synhwyrydd metel. Disgrifwyd barddoniaeth Thomas fel 'poetry of place' ac mae'r broses yn ymateb i'r syniad cyffredinol o le a'r cyfeiriad penodol yn y gerdd at y mannau roedd Thomas yn arfer eu troedio. Mae defnyddio gwrthrychau y daethpwyd o hyd iddynt yn fodd i ddatgloi a defnyddio'r gorffennol o fewn y bae. Mae'r bysedd cloc ar y darn yn adlewyrchu'r cyfeiriadau at amser, at dreigl tymhorau yn y gerdd. Mae'r gwneuthurwyr delweddau yn defnyddio ansoddau sy'n cynrychioli dail yn pydru, gan gyfeirio at yr elfen dymhorol ond hefyd yn creu harmoni gweledol lle mae siāp a chyfansoddiad yn ategu'r cydadwaith rhwng y mōr a'r tir, amser a lle. I greu'r ddelwedd derfynol defnyddiwyd bloc colagraff gan ddefnyddio darnau y daethpwyd o hyd iddynt. O'r rhain cynhyrchwyd mowld a chastiwyd plāt alwminiwm. Er bod y plāt hwn yn gallu cynhyrchu print, er hwylustod technegol ac am fod maint y cynhyrchiad yn sail i'r ddelwedd fe'i newidiwyd yn ysgythru-ffoto sy'n darparu'r print terfynol. |
||
|
GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE DYLAN THOMAS 50MLWYDDIANT
Mae Gweithdy Argraffu Abertawe yn cwmni nid er elw sy'n
gyfyngedig trwy warent.
|
|||