|
prosiect argraffu dylan thomas especially when the october wind |
|||
|
rydych chi nawr yn: PROSIECT ARGRAFFU DYLAN THOMAS | Y PROSIECT ARGRAFFU | Y PRINTIAU | RUTH PARMITER |
|||
|
|||
|
|
RUTH PARMITER Mae gwneud printiau wedi dod yn fwyfwy pwysig i fi, yn dibynnu ar ddylunio yn hytrach nag archwiliad cain, ac yn tystio i'm diddordeb parhaol mewn ffurfiau llythrennau a dylunio a swyddogaeth argraffwaith. Heb unrhyw hyfforddiant ffurfiol mewn gwneud printiau, rwy'n defnyddio datrysiadau sy'n cynnig eu hunain trwy gyfryngau ansafonol a chymysg. Mae'n ymddangos mai cerdd ddisgrifiadol yn unig yw hon. Mae'r eiconau gweledol yn fach, gan awgrymu cyd-destun, fel archipelago pellenig yn cael ei olchi mewn geiriau anweledol. Mae rhai o'r eiconau - ' the wordy women', 'the starred child', ' the raven in flight' - yn cael eu dwyn at ei gilydd fel preswylwyr ym Mharc Cwmdonkin sy'n agored i'r gwynt. Mae'n rhaid darganfod yr eiconau a'u hymchwilio. Hefyd mae graddfa'r print yn gwahodd ôl-dremio personol, ymateb unigol yn canolbwyntio ac yn lleihau gyda threigl amser. Mae'r print yma'n ddelwedd gerfwedd llinell wen, torlun leino, yn null ysgythru pren gan ddefnyddio inc cerfwedd olew ac wedi'i brintio ar wasg silindr Tofko. |
||
|
GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE DYLAN THOMAS 50MLWYDDIANT
Mae Gweithdy Argraffu Abertawe yn cwmni nid er elw sy'n
gyfyngedig trwy warent.
|
|||