|
prosiect argraffu dylan thomas especially when the october wind |
|||
|
rydych chi nawr yn: PROSIECT ARGRAFFU DYLAN THOMAS | Y PROSIECT ARGRAFFU | Y PRINTIAU | PETER VISSCHER |
|||
|
|||
|
|
PETER VISSCHER Roedd mis Hydref yn dwyn atgofion fel mis fy ngeni, ond nid oedd unrhyw arwyddocâd penodol i'r cyfeiriadau at Abertawe oherwydd nid wyf wedi byw yma'n hir. Wrth gwrs mae gan y farddoniaeth ystyr y tu hwnt i gysylltiadau lleol a phrynais gopi o Collected Poems yn 1972 pan oeddwn yn byw yn yr Iseldiroedd. Roeddwn eisiau pwysleisio golau isel a chysgodion hir i ddwyn llawer o 'chiaroscuro' i'r print. Canolbwyntiodd fy nyluniad ar ran ganolog y brasluniau cyntaf. Cyfunwyd yr elfennau gwreiddiol i lunio delwedd fwy noethlwm, gafaelgar, gydag awgrym o wynt a symudiad, tra'n cadw awyrgylch oriau olaf golau dydd. Defnyddiais arddull luniadu weddol rydd a llac, gan nodi'n unig yr hyn a allai fod yn laswellt a gwynt, heb ddymuno diffiinio'r rhain ymhellach. Cafodd gweithio yn y stiwdio yn Stryd Clarence ddylanwad ar fy ngwaith, yn ogystal ag arbrofi gyda grwnd meddal ac acwatint, a nifer o sgyrsiau. Ysgythru grwnd meddal ar gopr, wedi'i drochi mewn Clorid Fferic gwan. 'Acwatint' acrylig wedi'i aerfrwsio; ychydig o grafu a bwrneisio. |
||
|
GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE DYLAN THOMAS 50MLWYDDIANT
Mae Gweithdy Argraffu Abertawe yn cwmni nid er elw sy'n
gyfyngedig trwy warent.
|
|||