|
prosiect argraffu dylan thomas especially when the october wind |
|||
|
rydych chi nawr yn: PROSIECT ARGRAFFU DYLAN THOMAS | Y PROSIECT ARGRAFFU | Y PRINTIAU | LUCY DONALD |
|||
|
|||
|
|
LUCY DONALD Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y print a gynhyrchwyd ar gyfer y gyfres, o'r disgrifiadau o'r cigfrain fel 'dark-vowelled birds'. Dyma'r ddelwedd oedd yn aros yn fy nghof wrth i mi fraslunio yn Rhosili neu yrru dros Gefn Bryn ar Benrhyn GÝyr ar fy ffordd i'r gwaith. Bum yn arsylwi'n bennaf yn y glaw a theimlais y byddai'r ddelwedd o gigfrain yn cael eu rhwystro gan y gwynt, a'u chwythu gyda'r dail ar y llawr yn sail da i brint. Yn y gerdd, mae Thomas yn disgrifio'i grefft o drosi delweddau'n eiriau. Wrth astudio ei lyfrau nodiadau a'i lythyrau gallwn weld sut y creodd ei gerddi. Dewis geiriau'n ofalus, croesi allan, cywiro ac ailwampio. Roeddwn yn gobeithio dal yr angerdd yma a'i agwedd egnïol yn fy mhrint. Trwy adael i'r print estyn dros ymyl decl y papur, roeddwn yn gobeithio y byddai'r gwyliwr yn cael goleuni pellach ar y broses weithio ac yn awgrymu tystiolaeth yr artist. Cynhyrchwyd y print gan ddefnyddio'r broses sgrîn sidan ffoto-stensil ac roedd rhaid ei brintio ddwywaith, unwaith ar gyfer pob lliw. |
||
|
GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE DYLAN THOMAS 50MLWYDDIANT
Mae Gweithdy Argraffu Abertawe yn cwmni nid er elw sy'n
gyfyngedig trwy warent.
|
|||