|
prosiect argraffu dylan thomas especially when the october wind |
|||
|
rydych chi nawr yn: PROSIECT ARGRAFFU DYLAN THOMAS | Y PROSIECT ARGRAFFU | Y PRINTIAU | JUDITH STROUD |
|||
|
|||
|
|
JUDITH STROUD Mae hoffter Thomas o natur, a'i agwedd o'i gysylltu ā phrosesau ysgrifennu a'r corff, yn arbennig o ddiddorol. Mae amlinelliad gothig fy mhrint yn cyfuno siapiau ceinciog coed moel, golygfa gyfarwydd yn Abertawe yn yr hydref, gyda siapiau coed eraill, wedi'u cerflunio a'u corachu gan amser, y tywydd neu law dyn. Dyma arwyddion natur, fel dwylo, dyrnau, bysedd, migyrnau, ystumiau, yn creu 'siapiau geiriol' ac yn ategu amwysedd Thomas. Crewyd siāp ffurf rhydd fy mhlāt ysgythru trwy ei rolio ar rwnd caled, a thynnu llun drwyddo. Yna trochi'r plāt mewn clorid fferig am bedair awr ar hugain neu fwy. Yna rhoddais rwnd meddal ar y plāt copr ac argraffu hwn ag ansoddau naturiol fel gwymon a glaswellt sych. Defnyddiais hefyd rai o'm byrddau colograff arbrofol diweddar, gyda'r deunyddiau eisoes ynghlwm wrthynt. Roedd hyn yn ei gwneud yn haws rheoli'r canlyniadau. Ar ōl y cnoad roedd y broses yn cael ei hailadrodd sawl gwaith, tra'n gorchuddio gwahanol rannau'r plāt. Dw i ddim wedi defnyddio unrhyw luniad fel y cyfryw, rwyf wedi ychwanegu ychydig o acwatint, neu wedi crafu a bwrneisio'r plāt.. |
||
|
GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE DYLAN THOMAS 50MLWYDDIANT
Mae Gweithdy Argraffu Abertawe yn cwmni nid er elw sy'n
gyfyngedig trwy warent.
|
|||