|
prosiect argraffu dylan thomas especially when the october wind |
|||
|
rydych chi nawr yn: PROSIECT ARGRAFFU DYLAN THOMAS | Y PROSIECT ARGRAFFU | Y PRINTIAU | JACKIE FORD |
|||
|
|||
|
|
JACKIE FORD Roedd y gerdd yn gatalydd i gyfres o ddelweddau dros gyfnod o fisoedd. Y ffigur yma oedd y cyntaf i ymddangos, ar ôl tro faith ar draeth Abertawe un noson ym mis Hydref 2002. Rwy'n hoffi'r ffordd mae'r gerdd yn cyfeirio ar un lefel at y broses ysgrifennu go iawn a'r cysylltiad â'r ymdeimlad corfforol o gerdded ar hyd y traeth, gan symud yn hawdd rhwng tirweddau mewnol ac allanol. Rwy'n mwynhau'r broses gorfforol o ysgrifennu ac ysgrifennais y gerdd allan sawl gwaith. Yn ystod y broses ysgrifennu a throsysgrifennu, datblygwyd gwaith haniaethol o ansawdd trwchus. Mae testun y print yn ganlyniad un o'r prosesau yma gyda haen o destun ysgrifenedig â llaw dros y testun printiedig. Mae'r testun a ysgrifennwyd â llaw yn rhan o'r gerdd: mae'r testun oddi tano yn ymwneud â 'qualia', neu ymwybyddiaeth fewnol, o lyfr David Lodge 'Consciousness and the Novel.' Fel delwedd, y testun oedd yr olaf i ymddangos gan gwblhau'r cylch a rhoi syniad o ddwyn pethau i ben. Darn o gopr wedi'i ysgythru heb inc yw'r print ac felly gellir ei ddarllen yn ôl y cysgod a deflir yn unig. Wrth i'r ffynhonnell olau newid, gellir darllen darnau gwahanol o'r testun. Mae'n rhaid printio pob print ddwy waith, yn gyntaf y wasg ysgythru ar gyfer y llythrennau ac yna'r wasg gerfwedd Columbian ar gyfer y torlun lino. |
||
|
GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE DYLAN THOMAS 50MLWYDDIANT
Mae Gweithdy Argraffu Abertawe yn cwmni nid er elw sy'n
gyfyngedig trwy warent.
|
|||