|
prosiect argraffu dylan thomas especially when the october wind |
|||
|
rydych chi nawr yn: PROSIECT ARGRAFFU DYLAN THOMAS | Y PROSIECT ARGRAFFU | Y PRINTIAU | ELISSA EVANS |
|||
|
|||
|
|
ELISSA EVANS Mae'n rhaid i'r gwaith ddangos tystiolaeth ohonof fy hun fel artist. Yn aml fi yw'r gwrthrych gan gyfeirio at fy hunan gorffennol, presennol a dyfodol. Rwy'n defnyddio'm corff fel offer lluniadu go iawn. Rwy'n gweld fy ngwaith fel proses garthartig; ar brydiau'n hunan-edmygus a thro arall yn hunan-ddirmygus. Dewiswyd cyfeiriadau llythrennol ac ymchwiliwyd i'r rhain. Roedd cadw rhyddid fy 'nyluniad' yn bwysig i fi ac felly dewisais y dechneg o ysgythru ar gopr. Tynnais lun yn y grwnd meddal a'i farcio gyda'm gwallt, fy mysedd a'm ceg fy hun. Wedi'u hintegreiddio yn y dyluniad mae cyfeiriadau at arddull dywyll, gothig ac eglurhaol ffilmiau arswyd yr 1930au. Dywedwyd bod y rhain wedi dylanwadu ar Dylan Thomas. Mae gwaith Dylan Thomas yn aml yn cael ei labelu'n 'gerddi proses', lle nad oes dim yn sefydlog a lle mae rhwyddineb symudiad. Mae'r platiau yma'n ffurfiau gweledol i ddangos ac ategu ei ymwybyddiaeth bod mwy i iaith na geiriau ysgrifenedig a seiniau a phwysigrwydd ystumiau, arwyddion a defnyddio'r synhwyrau. |
||
|
GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE DYLAN THOMAS 50MLWYDDIANT
Mae Gweithdy Argraffu Abertawe yn cwmni nid er elw sy'n
gyfyngedig trwy warent.
|
|||