prosiect argraffu dylan thomas especially when the october wind

rydych chi nawr yn: PROSIECT ARGRAFFU DYLAN THOMAS | Y PROSIECT ARGRAFFU | GEIRFA

Swansea Print Workshop logo  

ENGLISH >>

GEIRFA

ACWATINT - Techneg ysgythru sy'n creu ardaloedd o arlliw trwy roi ysgeintiad acrylig coeth i'r plāt cyn ei drochi mewn asid. Mae hyn yn rhoi ardaloedd ansoddedig cain lle mae'r gwerth arlliw yn dibynnu ar ba hyd y bu'r plāt yn yr asid. 

BOGLYNWAITH DALL - Argraff dri dimensiwn pendant yn cael ei chreu heb inc ac wedi'i brintio ar bapur llaith. 

YSGYTHRU - Endorri llinellau ar blāt metel gydag asid ar gyfer argraffu intaglio. Mae'r plāt yn cael ei orchuddio gan rwnd gwrthasid trwy'r hwn y bydd yr artist yn tynnu llun, gan ddatgelu'r metel noeth oddi tano. Pan drochir y plāt mewn bath asid bydd y llinellau hyn wedi'u hysgythru ar y plāt. 

INTAGLIO - Unrhyw dechneg fel ysgythru, acwatint neu rwnd meddal lle bydd delwedd yn cael ei hargraffu o linellau neu ansoddau sydd wedi'u crafu, eu hengrafio neu eu hysgythru ar blāt metel. Mae'r plāt hwn yn cael ei incio a'i sychu'n lān gan adael inc yn yr ardaloedd endoredig sy'n rhan o'r ddelwedd. Yn ystod printio mae pwysau aruthrol y wasg yn gwthio'r papur llaith i rannau'r plāt sy'n dal yr inc ac felly mae'r ddelwedd yn cael ei throsglwyddo. 

TORLUN LEINO - Print cerfwedd wedi'i gerfio ar linoliwm gan ddefnyddio'r un offer ā thorlun pren. Mae ansawdd llyfn y lino yn rhoi gorffeniad gwahanol a mwy cyson na thorlun pren.

CNOAD AGORED - Mewn cnoad agored mae'r asid yn cael llifo'n rhydd ar y plāt ar fannau lle mae'r metel yn noeth.

PRINT CERFWEDD - Unrhyw ddelwedd a brintir o rannau wedi'u codi ar floc sydd wedi'i dorri, ei ysgythru neu ei gastio. Mae torlun pren a thorlun leino'n enghreifftiau. 

PRINTIO SGRĪN - Gelwir hefyd yn "sgrīn sidan" neu "serigraffiaeth", mae'r dull yma o brintio'n defnyddio stensiliau. Wedi'u gwneud o bapur, ffilm stensil neu emwlsiwn ffotograffig, mae'r rhain yn cael eu gosod ar sgrīn. Mae inc yn cael ei wasgu ar bapur trwy dyllau mān y sgrīn. 

GRWND MEDDAL - Techneg ysgythru lle mae'r plāt yn cael ei orchuddio gan rwnd hydrin ac mae nifer o ddeunyddiau gweadog yn cael eu gwasgu drwyddo. Mae hyn yn dinoethi'r metel ac yn gadael i'r deunyddiau gweadog gael eu hysgythru ar y plāt. Bydd tynnu llun ar y grwnd meddal hefyd yn gwneud i'r grwnd godi. Ar ōl ei ysgythru bydd y rhain yn debyg i linellau pensil.

TORLUN PREN - Print cerfwedd wedi'i gerfio fel arfer yn dilyn graen darn o bren. Mae'n cael ei incio gyda rholer a'i brintio naill ai gyda gwasg neu ei fwrneisio ā llaw.

CARTREF

Y PROSIECT ARGRAFFU

Y PRINTIAU

YR ARTISTIAID

CATALOG YR ARDDANGOSFA

RHAGAIR

HEDDWCH AM EILIAD

Y GERDD

HANES Y PROSIECT

Y PAPUR

Y BOCS

Y COLOFFON

ARDDANGOSFA

DIOLCHIADAU

SUT I BRYNNU

Y WASG

GEIRFA

GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE

CYSWLLT

GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE DYLAN THOMAS 50MLWYDDIANT

 

Mae Gweithdy Argraffu Abertawe yn cwmni nid er elw sy'n gyfyngedig trwy warent. 
Rhif Companies House 4078671: 19a Stryd Clarence, Abertawe SA1 3QR

  

gweithdy argraffu abertawe 2003. I weld yr we fan ma ar ei orau defnyddiwch 1024 x 768 ar ie5 neu hwyrach