prosiect argraffu dylan thomas especially when the october wind

rydych chi nawr yn: PROSIECT ARGRAFFU DYLAN THOMAS | Y PROSIECT ARGRAFFU | RHAGAIR

Swansea Print Workshop logo  

ENGLISH >>

RHAGAIR

Rhagair i gatalog arddangosfa Dylan Thomas 
gan Andrew Davies AC 6ed Ebrill 2003

"Disgrifiodd ymwelwr diweddar o'r Unol Daleithiau Abertawe fel 'prifddinas fohemaidd a diwylliannol Cymru'. Gydag etifeddiaeth yr 20fed ganrif sy'n cynnwys Ceri Richards, Dylan Thomas, Daniel Jones, Vernon Watkins ac Alfred Janes mae'n ddisgrifiad addas dros ben. Faint o ddinasoedd eraill all hawlio'r fath etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog? 

Ac mae'r traddodiad cyfoethog anhygoel yma'n parhau ar draws yr holl gelfyddydau gweledol a pherfformiadol hyd heddiw, ac yn cael ei amlygu yng ngwaith Gweithdy Argraffu Abertawe. Fe ddes i ar draws eu gwaith gyntaf ychydig flynyddoedd yn ôl pan ofynnwyd i fi gefnogi cais am arian Loteri. Roeddwn wedi synnu at gyfoeth ac ehangder y gwaith a gyflawnir gan y gwneuthurwyr printiau sy'n byw ac yn gweithio yn Abertawe. 

I fi, un o nodweddion unigryw Abertawe yw cryfder dygn a dawn greadigol ei hamryw gymunedau a gallu a pharodrwydd y cymunedau yma i weithio gyda'i gilydd a chael eu hysbrydoli gan waith ei gilydd. I ddathlu hanner can mlwyddiant marwolaeth Dylan Thomas, ni allaf feddwl am well teyrnged i'w fywyd a'i waith na'r artistiaid hynny sy'n byw yn ein dinas heddiw yn cysegru gwaith a ysbrydolwyd gan ei gerddi. 

Ac mae bri artistiaid sy'n byw yn Abertawe yn dal i dyfu. Yn wir cystal yw ansawdd eu gwaith, yn dilyn fy awgrym i'm cydweithwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol, gofynnwyd i'r Gweithdy Argraffu gynnal arddangosfa a oedd yn ganolbwynt yr 'Wythnos Gymreig' eleni ym Mrwsel. Roeddwn yn falch iawn, ond heb fy synnu, pan gafodd yr arddangosfa dderbyniad mor frwdfrydig gan gynulleidfa Ewropeaidd amrywiol.

Mae'n fraint gen i ysgrifennu'r rhagair yma, ac fel casglwr brwd o waith gwneuthurwyr printiau lleol, rwy'n gobeithio y byddwch yn mwynhau'r catalog yma cymaint ag y gwnes i.

CARTREF

Y PROSIECT ARGRAFFU

Y PRINTIAU

YR ARTISTIAID

CATALOG YR ARDDANGOSFA

RHAGAIR

HEDDWCH AM EILIAD

Y GERDD

HANES Y PROSIECT

Y PAPUR

Y BOCS

Y COLOFFON

ARDDANGOSFA

DIOLCHIADAU

SUT I BRYNNU

Y WASG

GEIRFA

GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE

CYSWLLT

GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE DYLAN THOMAS 50MLWYDDIANT

 

Mae Gweithdy Argraffu Abertawe yn cwmni nid er elw sy'n gyfyngedig trwy warent. 
Rhif Companies House 4078671: 19a Stryd Clarence, Abertawe SA1 3QR

  

gweithdy argraffu abertawe 2003. I weld yr we fan ma ar ei orau defnyddiwch 1024 x 768 ar ie5 neu hwyrach