prosiect argraffu dylan thomas especially when the october wind

rydych chi nawr yn: PROSIECT ARGRAFFU DYLAN THOMAS | Y PROSIECT ARGRAFFU |  HEDDWCH AM EILIAD

Swansea Print Workshop logo

ENGLISH >>

HEDDWCH AM EILIAD 

gan Malcolm Parr

"Was you thinking at all of poetry?" Mr Wegg inquired, musing. 
"Would it come dearer?" Mr Boffin asked. 
"It would come dearer," Mr Wegg returned. "For when a person comes to grind off poetry night after night, it is but right he should expect to be paid for its weakening effect on his mind."

CHARLES DICKENS: 
Our Mutual Friend. 

Yn ei draethawd 'The Sanity of True Genius' dywedodd Charles Lamb: "So far from the position holding true that great wit (or genius, in our modem way of speaking) has a necessary alliance with insanity, the greatest wits on the contrary, will ever be found to be the sanest writers. It is impossible for the mind to conceive of a mad Shakespeare... the ground of the mistake is that men, finding in the raptures of the higher poetry a condition of exaltation, to which they have no parallel in their own experience, besides the spurious resemblance of it in dreams and fevers, impute a state of dreaminess and fever to the poet. But the true poet dreams being awake. He is not possessed by his subject but has dominion over it." 

Ysgrifennodd Charles Baudelaire yn ei ddyddiadur mai dim ond artistiaid a phlant (roedd e wedi pwysleisio'r cysylltiad rhyngddynt bob amser) oedd yn gallu edrych ar luniau; iddyn nhw "An image represents something else: a dream that they recall, a miraculous voyage, a salvation." 

Dychymyg felly yw nodwedd allweddol athrylith, "the queen of all our faculties", yn ôl Baudelaire, gan ychwanegu: "Imagination is both analysis and synthesis... it is sensitivity... It is imagination that first taught men the moral meaning of colour, of contour, of sound, and of scent. In the beginning of the world it created analogy and metaphor. It decomposes all creation, and with the raw materials accumulated and disposed in accordance with rules whose origins one cannot find save in the furthest depths of the soul, it produces the sensation of newness. As it has created the world (so much can be said, I think, even in a religious sense), it is proper that it should govern it."

Yn ei lyfr ar Dylan Thomas (dan yr is-deitl 'Dog Among the Fairies'), mae Henry Treece yn adrodd sut yr ymatebodd Dylan Thomas i feirniadaeth Treece o'i gerddi cynnar lle mae'n cyfeirio at "diffuseness" Thomas fel diffyg difrifol. Yn ei ateb mae Thomas yn rhoi disgrifiad manwl a diddorol o'i ddulliau gweithio a sut mae ei ddychymyg creadigol yn ymgiprys â'i ddeunydd crai. Yn gyntaf mae'n gwrthod syniad Treece am gerdd fel "concentric movement round a central image". Mae math Thomas o gerdd yn seiliedig ar "host of images". Yna mae'n esbonio sut mae'r syniad cyntaf yn cynhyrchu un all ac yn y blaen, un ddelwedd yn gwrth-ddweud un arall. Mae'r broses yn un o ymrafael cyson, sydd ar yr un pryd yn adeiladol ac yn ddinistriol. O'r canol, meddai Thomas, mae bywyd cerdd yn ymddangos. Mae genedigaeth a marwolaeth un ddelwedd mewn un arall yn ffurfio dilyniant, yr hyn a alwa'r bardd yn "creations, recreations, destructions, contradictions". Mewn gwrtheiriad nodweddiadol mae Thomas yn sôn am "womb of war", ac yn deillio o hwn daw'r gerdd brydferth a ddisgrifir fel "that momentary peace".

I ddychwelyd at Baudelaire y mae ei eiriau'n dal yn berthnasol yn yr unfed ganrif ar hugain: "It is impossible for a poet not to contain within him a critic. Therefore, the reader will not be surprised at my regarding the poet as the best of all critics." I Baudelaire mae'r gair "bardd" yn cynnwys pob math o artistiaid creadigol beth bynnag fo'u cyfrwng. Ac mae'r gallu beirniadol yn gweithio yn yr un ffordd â'r gallu creadigol. Yn ôl Baudelaire, gwaith y beirniad yw trosi "volupté" yn "connaissance", y pleser pur neu wefr a gynhyrchir gan waith celf yn cael ei drosi'n wybodaeth, ond gwybodaeth wedi'i lliwio gan bersonoliaeth a dychymyg, yn bendant nid math Gradgrind. Mewn geiriau eraill, gall y canlyniad fod yn waith creadigol artisitig. 

Drwy'r oesoedd mae gweithiau celf mewn rhyw gyfrwng neu'i gilydd wedi ysbrydoli artistiaid. Mae ymateb artistiaid gweledol i'r gair yn gyfoethog o bosibiliadau diddiwedd. Meddyliwch am ddehongliad sensitif Ceri Richards i farddoniaeth Dylan Thomas. Yn y darllediad Radio BBC 1949, 'Swansea and the Arts', cyfeiriodd Alfred Janes at Abertawe "full of contrasts and conflicts and contradictions", gan bwysleisio pa mor bwysig oeddent i'r dychymyg artistig. Mae hyn yr un mor wir am Abertawe heddiw. A hefyd ceir gwaith Dylan ei hun a fydd gyda ni am byth. Mae sut y byddwn yn ymateb gyda'n teimladau a'n dychymyg a'n hathrylith i fyny i ni. Ac mae'n werth cofio'r hyn a ddywedodd William Blake, un o hoff feirdd Dylan Thomas: "The imagination is not a State, it is the Human Existence itself." 

Malcolm Parr

Malcolm Parr: Cyfieithydd, bardd, awdur straeon byr; nawr yn awdur / darlithydd ar ei liwt ei hun yn byw yn Abertawe

CARTREF

Y PROSIECT ARGRAFFU

Y PRINTIAU

YR ARTISTIAID

CATALOG YR ARDDANGOSFA

RHAGAIR

HEDDWCH AM EILIAD

Y GERDD

HANES Y PROSIECT

Y PAPUR

Y BOCS

Y COLOFFON

ARDDANGOSFA

DIOLCHIADAU

SUT I BRYNNU

Y WASG

GEIRFA

GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE

CYSWLLT

GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE DYLAN THOMAS 50MLWYDDIANT

 

Mae Gweithdy Argraffu Abertawe yn cwmni nid er elw sy'n gyfyngedig trwy warent. 
Rhif Companies House 4078671: 19a Stryd Clarence, Abertawe SA1 3QR

  

gweithdy argraffu abertawe 2003. I weld yr we fan ma ar ei orau defnyddiwch 1024 x 768 ar ie5 neu hwyrach