|
prosiect argraffu dylan thomas especially when the october wind |
|||
|
rydych chi nawr yn: PROSIECT ARGRAFFU DYLAN THOMAS | Y PROSEICT ARGRAFFU |
|||
|
|||
|
|
Y PROSIECT ARGRAFFU I NODI HANNER CAN MLWYDDIANT MARWOLAETH DYLAN THOMAS, CYTUNODD DEUDDEG GWNEUTHURWR PRINTIAU O WEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE I GYDWEITHIO I GREU DEUDDEG PRINT GWREIDDIOL A CASGLWYD A'I GYFLWYNO MEWN BOCS ARBENNIG. DEFNYDDIODD Y DEUDDEG ARTIST Y CERDD 'ESPECIALLY WHEN THE OCTOBER WIND' FEL MAN DECHRAU. Mae'r delweddau wedi eu rhwymio mewn bocs werdd arbennig gydag ysgrifen wedi ei boglynnu yn yr ochrau brethyn. Gwneuthwyd y bocs unigryw yma yn y Fine Bindery, Northampton. Arwyddwyd pob delwedd ac mae pob bocs yn cynnwys coloffon wedi ei arwyddo gan Aernowy Thomas, merch Dylan Thomas sydd wedi rhoi ei chefnogaeth trwy gydol y prosiect yma. Yn ychwanegol mae'r coloffon yn cynnwys y gerdd, traethawd gan y bardd, cyfieithydd ac awdur straeon byrion, Malcolm Parr dan yr enw 'Heddwch am Eiliad' ble mae'n edrych ar y perthynas rhwyng y dychymug a barddoniaeth. Mae Malcolm Parr, a agorodd yr arddangosfa yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe, wedi arwyddo pop coloffon yn unigol, fel wnaeth Andrew Davies, Aelod Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a sgrifennodd y rhagair i'r darn neilltiol hwn. Mae'r holl ysgrifen yn ddwyiaethog, ac felly yn y Gymraeg a'r Saesneg. |
||
|
GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE DYLAN THOMAS 50MLWYDDIANT
Mae Gweithdy Argraffu Abertawe yn cwmni nid er elw sy'n gyfyngedig trwy warent.
|
|||